Nid oes neb eisiau derbyn tocyn, ond, os ydych chi wedi derbyn tocyn , mae gwybodaeth am y camau nesaf a’r manylion cyswllt cywir ar gael drwy PATROL.
Mae Cyd-bwyllgor PATROL (Rheoliadau Parcio a Thraffig Tu Allan i Lundain) yn cynrychioli dros 300 o awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr (tu allan i Lundain). Maent hefyd yn paratoi gwybodaeth ynglŷn â chosbau a gyflwynwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i fodurwyr sydd heb dalu am ddefnyddio Croesfan Afon Dartford – Thurrock ( ‘Dart Charge’), a’r cosbau a gyflwynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Halton yn gysylltiedig â Chroesfan Pont Afon Merswy (‘Merseyflow’).

RWYF WEDI DERBYN TOCYN
Os ydych chi wedi derbyn cosb parcio neu unrhyw Hysbysiad Tâl Cosb arall (HTC), mae mwy o wybodaeth am eich opsiynau a’r camau nesaf ar gael yma.