Penodi Louise Haigh yn Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth
Awst 21, 2024
Mae’r Gwir Anrhydeddus Louise Haigh, AS Sheffield Heeley, wedi’i phenodi’n Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yng Nghabinet newydd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer.
Buan iawn y sefydlodd Haigh arwyddair newydd i'r Adran Drafnidiaeth 'symud yn gyflym a thrwsio pethau', gan addo hefyd y byddai'r Adran yn 'meddwl am seilwaith a gwasanaethau gyda'i gilydd bob tro.'
Mae hi wedi gosod pum blaenoriaeth strategol, gan gynnwys:
- gwella perfformiad ar y rheilffyrdd a bwrw ymlaen â diwygio rheilffyrdd
- gwella gwasanaethau bysiau a chynyddu defnydd ledled y wlad
- trawsnewid seilwaith i weithio i'r wlad gyfan, hyrwyddo symudedd cymdeithasol a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol
- darparu trafnidiaeth wyrddach
- integreiddio rhwydweithiau trafnidiaeth yn well.
Yn fwy diweddar, mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi gosod cynlluniau i gefnogi awdurdodau lleol i gyflwyno terfynau 20 milltir yr awr, lonydd beicio a Chymdogaethau Traffig Isel mewn gwyriad nodedig oddi wrth safiad y Llywodraeth flaenorol ar faterion o’r fath.