Chat with us, powered by LiveChat Codau Tramgwydd - PATROL

PARCIO AR Y STRYD

CÔD DISGRIFIAD LEFEL
01 Parcio mewn stryd gyfyngedig yn ystod oriau penodedig Uwch
02 Parcio neu lwytho/dadlwytho mewn stryd gyfyngedig  lle mae cyfyngiadau aros a llwytho/dadlwytho mewn grym Uwch
04 Parcio mewn cilfach wedi ei reoli gan gloc parcio pan nodir amser cosb ar y cloc Is
05 Parcio ar ôl i’r amser y talwyd amdano ddod i ben Is
06 Parcio heb arddangos tocyn talu ac arddangos neu daleb ddilys yn glir Is †
07 Parcio a thalu swm ychwanegol i ymestyn yr amser parcio tu hwnt i’r amser a brynwyd yn wreiddiol. Is
08 Parcio wrth gloc parcio sydd wedi torri yn ystod oriau cyfyngedig Is
09 Parcio gan arddangos sawl tocyn talu ac arddangos lle gwaherddir hynny Is
10 Parcio heb arddangos dau docyn talu ac arddangos dilys yn glir pan fod angen gwneud hynny Is
11 Parcio heb dalu’r tâl parcio Is
12 Parcio mewn lle parcio i drigolion, neu mewn lle parcio lle caiff y defnydd ei rannu, heb arddangos naill ai drwydded, daleb neu docyn talu ac arddangos ar gyfer y lle hwnnw Uwch
13 – – – – AR GADW AR GYFER TRAFNIDIAETH  LLUNDAIN ( TfL) (PARTH ALLYRIADAU ISEL) – – – – N/A
14 Parcio mewn lle gwefru cerbyd trydan yn ystod oriau cyfyngedig heb wefru Uwch
16 Parcio mewn lle sydd angen trwydded heb arddangos trwydded ddilys Uwch
17 – – – AR GADW AR GYFER TRAFNIDIAETH LLUNDAIN (TfL) ( TÂL ATAL TAGFEYDD) – – – – N/A
18 Defnyddio cerbyd mewn lle parcio mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau, neu gynnig neu arddangos nwyddau i’w gwerthu pan waherddir hynny Uwch
19 Parcio mewn lle/parth  parcio i drigolion, neu mewn lle/parth parcio lle caiff y defnydd ei rannu, gan arddangos trwydded, taleb neu docyn talu ac arddangos annilys, neu barcio ar ôl i’r amser y talwyd amdano ddod i ben Is
20 Parcio mewn bwlch llwytho wedi’i farcio gan linell felen Uwch
21 Parcio mewn cilfach/lle neu ran o gilfach/le a waharddwyd Uwch
22 Ail barcio yn yr un lle/parth parcio oddi fewn awr ar ôl gadael Is
23 Parcio mewn lle/ardal parcio na ddynodwyd ar gyfer y dosbarth hwnnw o gerbyd Uwch
24 Heb barcio’n gywir oddi fewn i farciau’r gilfach neu’r lle parcio Is
25 Parcio mewn man llwytho yn ystod oriau cyfyngedig heb lwytho Uwch
26 Cerbyd wedi ei barcio mwy na 50 centimedr o ymyl y ffordd gerbydau ac nid oddi fewn lle parcio dynodedig Uwch
27 Parcio ger llwybr troed wedi ei ostwng i lefel y ffordd gerbydau. Uwch
28 Parcio mewn ardal gorfodaeth arbennig ar ran o’r ffordd gerbydau sydd wedi ei godi i lefel y llwybr troed, llwybr beicio neu ochr y ffordd. Uwch*
30 Parcio yn hirach nag a ganiateir Is
34 Bod mewn lôn bws N/A
35 Parcio mewn lle parcio disg heb arddangos disg dilys yn glir Is
40 Parcio mewn lle parcio wedi ei ddynodi ar gyfer person anabl heb arddangos bathodyn person anabl dilys yn glir Uwch
41 Parcio mewn lle parcio wedi ei ddynodi ar gyfer cerbydau diplomyddol Uwch
42 Parcio mewn lle parcio wedi ei ddynodi ar gyfer cerbydau’r heddlu Uwch
43 Stopio ar le parcio ar gyfer docio beiciau Uwch *
45 Parcio ar safle tacsis Uwch
46 Stopio lle may hynny wedi ei wahardd (ar ffordd goch neu glirffordd) Uwch
47 Stopio ar safle/arhosfan bws cyfyngedig Uwch
48 Stopio mewn ardal gyfyngedig y tu allan i ysgol Uwch
49 Parcio’n gyfan gwbl neu’n rhannol ar lwybr beicio Uwch
55 Cerbyd masnachol wedi’i barcio mewn stryd gyfyngedig yn groes i waharddiad aros dros nos Uwch
56 Parcio yn groes i gyfyngiadau aros cerbydau masnachol Uwch
57 Parcio yn groes i waharddiad coetsis Uwch
61 Cerbyd masnachol trwm wedi ei barcio yn gyfan gwbl neu’n rhannol ar lwybr troed, ochr y ffordd neu dir rhwng dwy ffordd Uwch
62 Parcio gydag un neu fwy nag un olwyn ar unrhyw ddarn o ffordd drefol heblaw am y ffordd gerbydau ( parcio ar lwybr troed) Uwch
63 Parcio gyda’r injan yn rhedeg lle mae hynny wedi ei wahardd Is
67 —- AR GADW AR GYFER ALLYRIADAU CERBYD —- N/A
68 —- AR GADW AR GYFER ALLYRIADAU CERBYD —- N/A
99 Stopio ar groesfan i gerddwyr a/neu ardal croesi wedi ei farcio â llinellau igam ogam Uwch

* Mae’r lefel is yn berthnasol i awdurdodau tu allan i Lundain
† Mae’r lefel uwch yn berthnasol yng Nghymru

PARCIO ODDI AR Y STRYD (MEYSYDD PARCIO)

CÔD DISGRIFIAD LEFEL
70 Parcio mewn ardal llwytho yn ystod oriau cyfyngedig heb esgus rhesymol Uwch
72 – – – AR GADW AR GYFER TRAMGWYDDAU SGIPIAU ADEILADWYR – – – N/A
73 Parcio heb dalu’r tâl parcio Is
74 Defnyddio cerbyd mewn lle parcio mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau, neu gynnig neu arddangos nwyddau i’w gwerthu pan waherddir hynny Uwch
77 – – – AR GADW AR GYFER ATGC – – – N/A
80 Parcio’n hirach nag a ganiateir Is
81 Parcio mewn ardal gyfyngedig mewn maes parcio Uwch
82 Parcio ar ôl i’r amser y talwyd amdano ddod i ben Is
83 Parcio mewn maes parcio heb arddangos tocyn talu ac arddangos, daleb neu gloc parcio dilys yn glir Is
84 Parcio a thalu swm ychwanegol i ymestyn yr amser parcio tu hwnt i’r amser a brynwyd yn wreiddiol. Is
85 Parcio mewn cilfach trwydded heb arddangos trwydded ddilys yn glir Uwch
86 Heb barcio’n gywir oddi fewn i farciau’r gilfach neu’r lle parcio Is
87 Parcio mewn lle parcio ar gyfer person anabl heb arddangos bathodyn person anabl dilys yn glir Uwch
89 Mae’r cerbyd sydd wedi ei barcio yn drymach a/neu’n uwch a/neu’n hirach na’r hyn a ganiateir yn yr ardal yma Uwch
90 Ail barcio yn yr un maes parcio oddi fewn awr ar ôl gadael Is
91 Parcio mewn maes parcio neu ardal na ddynodwyd ar gyfer y dosbarth hwnnw o gerbyd Uwch
92 Parcio gan achosi rhwystr Uwch
93 Parcio mewn maes parcio pan ar gau Is
94 Parcio mewn maes parcio talu ac arddangos heb arddangos dau docyn talu ac arddangos dilys yn glir pan fod angen gwneud hynny Is
95 Parcio mewn lle parcio am bwrpas gwahanol i’r hyn sydd wedi ei ddynodi ar gyfer y lle parcio hynny Is
96 Parcio gyda’r injan yn rhedeg lle mae hynny wedi ei wahardd Is

Skip to content