Chat with us, powered by LiveChat GWYBODAETH AM PATROL - PATROL
There is nothing to show here!
Slider with alias about-us-welsh not found.

Mae Cyd-bwyllgor PATROL (Rheoliadau Parcio a Thraffig Tu Allan i Lundain) yn cynrychioli dros 300 o awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr (tu allan i Lundain).


Mae gan PATROL ddyletswydd statudol i ddarparu system ddyfarnu annibynnol i ddelio gyda chosbau parcio a thraffig sy’n cael eu cyflwyno dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Mae’r Tribiwnlys Cosbau Traffig (TCT) yn darparu’r gwasanaeth yma drwy 30 o gyfreithwyr a bargyfreithwyr, a’u staff cynorthwyol.


Mae PATROL hefyd yn darparu system ddyfarnu annibynnol i ddelio gyda thramgwyddau eraill e.e. apeliadau yn erbyn cosbau lonydd bws yn Lloegr wedi eu cyflwyno dan Ddeddf Trafnidiaeth 2000. Maent hefyd yn gyfrifol am apeliadau yn erbyn cosbau a gyflwynwyd am beidio talu i ddefnyddio Croesfan Afon Dartford-Thurrock (Dart Charge) a Chroesfan Pont Afon Merswy (Merseyflow).


Yn ychwanegol mae PATROL yn ymgymryd â mentrau i gefnogi awdurdodau lleol a chodi ymwybyddiaeth o amcanion gorfodi sifil gan gynnwys:

  • Defnyddio gwobrau PARC i hyrwyddo’r awdurdodau i gyflwyno adroddiadau parcio lleol gorau phosib.
  • Darparu gwybodaeth ynglŷn â gorfodi sifil drwy wefan PATROL.
  • Cyfeirio materion sydd o ddiddordeb ynglŷn â rheoli traffig i’r awdurdodau lleol, tra hefyd yn ystyried safbwyntiau modurwyr (e.e. drwy system apeliadau’r Tribiwnlys Cosbau Traffig).
Skip to content