Eich opsiynau yw:
TALU : Gallwch dalu 50% o’r gosb os byddwch yn talu oddi fewn 14 diwrnod (diwrnod 1 yw’r dyddiad ar yr HTC). Ar ôl 14 diwrnod, mae’r gosb yn cynyddu i’r swm llawn. Beth bynnag, mae’n rhaid talu oddi fewn 28 diwrnod o’r dyddiad ar yr HTC. Mae gwybodaeth am sut i dalu ar gael yma.
GWRTHWYNEBU : Dilynwch y cyfarwyddiadau ar gefn yr HTC, ac anfonwch eich sylwadau ysgrifenedig i’r awdurdod. Os ydych chi’n gwrthwynebu oddi fewn 14 diwrnod, mae’r awdurdod yn fwy tebygol o ail gynnig y gostyngiad er iddynt wrthod eich sylwadau.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
Gwrthodiad anffurfiol yw hwn. Eich opsiynau yw:
TALU: Mae’r awdurdod yn debygol o dderbyn 50% o’r gosb os derbyniwyd eich sylwadau oddi fewn 14 diwrnod. Mae gwybodaeth am sut i dalu are gael yma.
GWRTHWYNEBU: Os ydych chi’n dal i fod o’r farn na ddylid talu’r gosb, mae’n rhaid aros nes i’r awdurdod anfon Hysbysiad i’r Perchennog (HiP). Mae’r HiP yn cael ei anfon at berchennog y cerbyd.
Eich opsiynau yw:
TALU: Dilynwch y cyfarwyddiadau ar yr HiP. Mae gwybodaeth am sut i dalu ar gael yma.
GWRTHWYNEBU: Defnyddiwch y ffurflen HiP (gyda thudalennau ychwanegol os oes angen) i anfon eich sylwadau i’r awdurdod. Mae’r HiP yn egluro ar ba seiliau y gellir gwrthwynebu’r HTC. Mae’n rhaid i’ch sylwadau gyrraedd yr awdurdod oddi fewn 28 diwrnod -diwrnod 1 yw dau ddiwrnod gwaith ar ôl anfon yr HiP. Mae mwy o wybodaeth am y broses gwrthwynebu ar gael yma.
Mae’r awdurdod yn anfon HTC drwy’r post pan fo’r tramgwydd wedi ei recordio gan system fideo cylch cyfyng (CCTV), ac yn ymwneud â pharcio, lôn bws, traffig symudol neu dâl am ddefnyddio’r ffordd. Gellir hefyd anfon HTC parcio drwy’r post os nad oedd hi’n bosib rhoi’r HTC ar y cerbyd, na’i roi i’r gyrrwr.
Eich opsiynau yw:
TALU: Mae’n bosib talu 50% o’r gosb oddi fewn 14 diwrnod (Diwrnod 1 yw dau ddiwrnod gwaith ar ôl anfon yr HTC), neu 21 diwrnod os anfonwyd yr HTC am dramgwydd parcio wedi ei recordio gan system ‘CCTV’. Ar ôl 14/21 diwrnod, mae’r gosb yn cynyddu i’r swm llawn. Beth bynnag, mae’n rhaid talu oddi fewn 28 diwrnod o Ddiwrnod 1. Mae gwybodaeth am sut i dalu ar gael yma.
GWRTHWYNEBU: Dilynwch y cyfarwyddiadau ar gefn yr HTC, ac anfonwch eich sylwadau ysgrifenedig i’r awdurdod. Os ydych chi’n gwrthwynebu oddi fewn 14 diwrnod, mae’r awdurdod yn fwy tebygol o ail gynnig y gostyngiad er iddynt wrthod eich sylwadau.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yma
Eich opsiynau yw:
TALU: Mae’n rhaid i chi dalu ffi i ryddhau’r cerbyd.
GWRTHWYNEBU: Mae’n bosib gwrthwynebu er eich bod wedi talu i ryddhau’r cerbyd. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y nodiadau a gawsoch ar ôl talu, ac anfonwch eich sylwadau ysgrifenedig i’r awdurdod. Os nad ydych chi’n llwyddiannus, mae’n bosib apelio at ddyfarnwr annibynnol.
Eich opsiynau yw:
TALU: Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r awdurdod i dalu’r gosb yn llawn, neu dalu 50% o’r gosb os yw’r awdurdod yn fodlon derbyn gostyngiad.
GWRTHWYNEBU: Mae’r HG yn rhoi gwybodaeth am sut i apelio i’r Tribiwnlys Cosbau Traffig (TCT). Mae’n rhaid apelio oddi fewn 28 diwrnod ar ôl derbyn yr HG.
Mae’n rhaid talu neu wrthwynebu – nid yw’n bosib gwneud y ddau.
Am fwy o wybodaeth am sut i dalu, nodwch fanylion eich HTC yma.
Na. Mae’n rhaid dilyn y broses apelio – mae mwy o wybodaeth ar gael yma. Mae’r awdurdod yn cau’r achos ar ôl derbyn eich taliad. Os yw’r awdurdod wedi ail-gynnig y gostyngiad, ni fydd eich apêl yn diogelu’r cynnig yma, a byddwch yn colli’r cyfle i dalu’r swm is.
Os nad ydych chi wedi talu, nac wedi ymateb i’r Hysbysiad i’r Perchennog (HiP), neu’r Hysbysiad Tâl Cosb drwy’r post (HTC) oddi fewn 28 diwrnod, mae’r awdurdod yn anfon TCT sy’n cynyddu’r gosb o 50%.
Eich opsiynau yw:
TALU: Cysylltwch â’r awdurdod i dalu’r gosb yn llawn.
GWRTHWYNEBU: Nid yw’n bosib herio’r TCT. Os nad ydych chi’n talu’r TCT oddi fewn 14 diwrnod (Diwrnod 1 yw dau ddiwrnod gwaith ar ôl anfon y TCT), mae’n agored i’r awdurdod gofrestru’r ddyled gyda’r Llys Sirol – y Ganolfan Gorfodi Traffig (Traffic Enforcement Centre ‘TEC’) – yn Northampton. Mae’r TEC wedyn yn anfon gorchymyn llys atoch chi.
Mae’n bosib gwneud datganiad tyst (neu ddatganiad statudol mewn achosion lonydd bysiau) yn erbyn y gorchymyn llys ar un o bedwar sail – mae dogfennau’r TEC yn egluro’r seiliau perthnasol.
Os na wnaethoch chi dderbyn HG, HTC drwy’r post neu HiP, rydym yn awgrymu eich bod yn anfon eich sylwadau i’r awdurdod, er nad oes unrhyw ddyletswydd arnynt i’w hystyried bryd hynny.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â TEC ar 0300 123 1059 neu ymwelwch â’u gwefan.
Os ydych chi wedi derbyn gorchymyn llys, ond heb ei dalu oddi fewn 21 diwrnod ar ôl ei dderbyn, mae’n agored i’r awdurdod wneud cais i’r Llys Sirol am warant er mwyn cyfarwyddo Asiant Gorfodi Sifil.
Eich opsiynau yw:
TALU: Mae’n rhaid talu’r Asiant Gorfodi Sifil.
GWRTHWYNEBU : Cysylltwch â’r Ganolfan Gorfodi Traffic (TEC) i wneud ‘datganiad tyst allan o amser.’ Mae’n rhaid i’ch datganiad esbonio pam nad ydych chi wedi talu’r gosb nac wedi anfon eich sylwadau i’r awdurdod.
Cysylltwch â TEC ar 0300 123 1059 neu ymwelwch â’u gwefan.
Nid yw awdurdodau lleol yn gyfrifol am gosbau a dderbyniwyd gan gwmnïau preifat. Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r cwmni a dilyn eu system apêl.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r British Parking Association (01444 447 300).
Cysylltwch â’r awdurdod perthnasol i ymholi os ydi’r HTC wedi ei dalu. Mae’r manylion cyswllt ar eu gohebiaeth, ac ar gael yma.
Mae rhestr lawn o godau tramgwydd ar gael yma.
Cysylltwch â’r awdurdod yr ydych yn credu sydd wedi cyflwyno’r HTC i ymholi os oes HTC heb ei dalu yn bodoli. Mae manylion yr awdurdodau ar gael yma.
Tribiwnlys Llundain sy’n delio â’r HTC yma. Am fwy o wybodaeth ymwelwch â gwefan Tribiwnlys Llundain.