MESURAU AMGYLCHEDDOL NEWYDD YN 2018
Ym mis Hydref cyhoeddodd DEFRA eu bod am gynyddu uchafswm y dirwyon sy’n cael eu cyflwyno ‘yn y fan a’r lle’ am daflu sbwriel i £150 o Ebrill 2018. Maent hefyd wedi cyhoeddi dirwyon newydd i berchnogion cerbydau os caiff sbwriel ei daflu o’u cerbyd.
Mae’n costio bron i £800miliwn y flwyddyn i lanhau’n strydoedd a chefn gwlad. Mae uchafswm dirwyon ‘yn y fan a’r lle’ yn cynyddu o £80 i £150 i geisio atal pobl rhag taflu sbwriel. Mae’r isafswm yn codi o £50 i £65 a’r ddirwy arferol yn cynyddu o £75 i £100.
Mae DEFRA hefyd yn rhoi pwerau ychwanegol i gynghorau i gyflwyno dirwyon i berchnogion cerbydau os caiff sbwriel ei daflu o’u cerbyd, hyd yn oed os yw’r sbwriel yn cael ei daflu gan rywun arall. Mae’n rhaid profi fod sbwriel wedi ei daflu o’r cerbyd.
Mae’r llywodraeth wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu symud ymlaen gyda’r mesurau yn 2018, ar yr amod eu bod yn derbyn caniatâd y Senedd.
Dywedodd Therese Coffey, Gweinidog yr Amgylchedd, fod yn rhaid cymryd camau i ddelio a’r rhai sy’n gollwng sbwriel, gan gynnwys taflu sbwriel o gerbydau :
“Mae taflu sbwriel o gerbyd yr un mor annerbyniol â’i ollwng yn y stryd. Mae’r dirwyon newydd yn sicrhau fod y rhai sy’n gyfrifol, ac nid y gymuned leol, yn talu am gadw ein ffyrdd a’n strydoedd yn lân”
Dywedodd hefyd “Nid ffordd i godi arian yw’r dirwyon. Bydd y cynghorau yn derbyn canllawiau ynglŷn â sut i ddefnyddio’r dirwyon.”
Mae’n rhaid i gynghorau ystyried amgylchiadau lleol, gan gynnwys y gallu i dalu, wrth benderfynu ar lefel y dirwyon. Bydd canllawiau ar gael i sicrhau fod y pwerau newydd yn cael eu defnyddio mewn modd teg a chymesur.
Mae’r Tribiwnlys Cosbau Traffig yn delio gydag apeliadau yn erbyn dirwyon am daflu sbwriel o gerbydau.