GWOBRAU PARC, 10 GORFFENNAF 2018: CYNGOR SIR DYFNAINT YN ENNILL Y WOBR AM YR ADRODDIAD GORAU
Cynhaliwyd gwobrau blynyddol PATROL PARC (Parking Annual Report Awards by Councils) yn y Senedd yn San Steffan ddydd Mawrth, Gorffennaf 10.
Derbyniodd Cyngor Sir Dyfnaint y wobr am yr adroddiad gorau. Roedd y seremoni yn gyfle i ddarganfod mwy am y gwaith arbennig sy’n cael ei wneud gan aelodau PATROL drwy Gymru a Lloegr, i rannu gwybodaeth ynglŷn â gorfodaeth sifil yn eu hardaloedd.
Derbyniwyd y wobr ar ran y Cyngor gan y Cynghorydd Stuart Hughes, Aelod Cyngor Sir Dyfnaint ar gyfer Rheoli Priffyrdd a Christopher Rook, Rheolwr Tîm Rheoli Traffig.
Agorwyd y seremoni gan Huw Merriman A.S. dros Bexhill a Battle. Roedd Mr Merriman yn annog yr awdurdodau i ddal ymlaen gyda’r gwaith pwysig o rannu gwybodaeth ynglŷn â gorfodaeth parcio a thramgwyddau sifil eraill yn eu hardaloedd.
Cafwyd sgwrs ddifyr gan yr awdur a’r darlledwr Gyles Brandreth. Roedd ei dad, Charles, yn Brif Ymgynghorydd Cyfreithiol i’r AA o’r tridegau tan y saithdegau. Ysgrifennodd lyfr nodedig o’r enw ‘Parking Law’ a ddaeth yn awdurdod byd eang ar y pwnc.
Mae gwobrau PARC yn cydnabod yr awdurdodau sy’n paratoi adroddiadau blynyddol o’r safon uchaf, a drwy hynny yn hyrwyddo dealltwriaeth y cyhoedd ynglŷn ag amcanion gorfodaeth sifil yn eu hardaloedd. Fel rhan o waith PATROL i gefnogi eu haelodau ac i godi ymwybyddiaeth ynglŷn ag amcanion gorfodaeth sifil, mae gwobrau PARC wedi eu dylunio i wobrwyo awdurdodau, a’u hannog i ddefnyddio arferion da wrth baratoi adroddiadau blynyddol ledled y wlad.
Dywedodd Cynghorydd Jamie Macrae, Cadeirydd Cyd Bwyllgor PATROL:
“Mae adroddiadau blynyddol yn sicrhau fod gwybodaeth ynglŷn â pharcio ar gael yn rhwydd, mewn un lle. Mae’n rhoi cyfle i’r awdurdodau gyfathrebu gyda’r cyhoedd ynglŷn â nifer o faterion sy’n gysylltiedig â pharcio. Mae hyn yn cynnwys eu hamcanion ar gyfer cefnogi’r gymuned leol a’r economi, eu polisïau a’u gwasanaethau, ag effaith addysg a gorfodaeth ar gydymffurfiaeth gyda rheoliadau parcio.”
Yn ogystal ag ystyried yr adroddiad yn gyffredinol, mae nifer o elfennau yn cael eu barnu gan gynnwys polisïau, cynlluniau trafnidiaeth, ansawdd y wybodaeth, a pha mor ddefnyddiol yw’r adroddiad i’r gymuned leol.
Comisiynwyd grŵp adolygu annibynnol gan PATROL i ystyried yr adroddiadau. Dywedodd y grŵp fod adroddiad Cyngor Sir Dyfnaint yn:
“cynnwys ystadegau ynglŷn â chosbau, cyllid ac effeithiolrwydd cynlluniau newydd sy’n hawdd i’w deall. Mae hefyd yn cynnwys manylion am gostau, cymariaethau blynyddol, gwybodaeth ynglŷn â rheoli cyfrifon parcio ar y stryd a’r ffordd mae’r cyngor yn defnyddio unrhyw arian dros ben.”
Dywedodd y Cynghorydd Stuart Hughes, Aelod Cyngor Sir Dyfnaint ar gyfer Rheoli Priffyrdd:
“Mae’r Cyngor yn falch iawn o dderbyn y wobr yma. Mae’r adroddiadau blynyddol yn rhoi cyfle gwych i ni hyrwyddo ein gwasanaeth. Mae’n siawns i’r cyhoedd ddeall sut yr ydym yn gweithredu, ac i weld beth sy’n cael ei gyflawni drwy ein rheolaeth o’r rhwydwaith.
Rydym yn wasanaeth eithaf newydd, ac mae’r adroddiadau yma yn rhoi cyfle i ni ystyried sut mae’r gwasanaeth wedi datblygu dros y flwyddyn flaenorol. Mae’r adroddiad y flwyddyn yma yn rhagori oherwydd ei fod yn adlewyrchu cyfraniad pob rhan o’r Tîm Rheoli Traffig tuag at reolaeth parcio a thraffig yn ein Sir: Cyfadrannau Gweithrediadau, Prosesu a Pheirianneg.”
Roedd awdurdodau eraill hefyd yn cael eu cydnabod am eu harferion da mewn tri maes penodol:
- Cyngor Sir Cumbria : Cymeradwyaeth uchel ym maes Gofal Cwsmeriaid
- Cyngor Dinas Derby : Cymeradwyaeth uchel ym maes Arloesi a Gwasanaethau Newydd
- Cyngor Dinas Brighton & Hove: Cymeradwyaeth uchel ym maes Cyflwyno Gwybodaeth Cyllid ac Ystadegau
Roedd awdurdodau lleol eraill ar restr fer y grŵp adolygu : Bwrdeistref Broxbourne, Cyngor Dinas Durham, Cyngor Dinas Sunderland a Chyngor Dinas Caerwrangon.
Yn y dyfodol, mae PATROL am gyflwyno gwobr “Fformat Digidol Rhagorol”. Y pwrpas yw cydnabod yr awdurdodau hynny sy’n defnyddio fformatau digidol i wella’r ffyrdd y mae gwybodaeth am faterion parcio yn cael ei rannu gyda’r cyhoedd.
Mae system gorfodi parcio sifil yn galluogi’r awdurdodau i reoli adnoddau parcio ar ran y gymuned. Mae darparu adroddiadau o’r safon uchaf yn rhoi cyfle i’r awdurdodau ddangos fod y gymuned yn elwa o’u gwaith, ac yn gam tuag at newid agweddau ynglŷn â’r system orfodi.
Gallwch weld uchafbwyntiau’r seremoni yma.




