CYHOEDDI CYNLLUNIAU ADRAN YR AMGYLCHEDD, BWYD A MATERION GWLEDIG (DEFRA) I LEIHAU NO2 AR Y FFYRDD
Mae’n rhaid i’r cynghorau sy’n gyfrifol am y priffyrdd sy’n rhan o Gynllun Ansawdd Aer DEFRA, baratoi eu cynlluniau terfynol i leihau NO2 erbyn diwedd 2018, meddai Louise Hutchinson, Cyfarwyddwr PATROL.
“Mae’n debygol y bydd 33 o briffyrdd tu allan i Lundain yn torri cyfyngiadau llygredd cyfreithiol oherwydd lefelau uchel o NO2. Mae’n rhaid i 23 awdurdod tu allan i Lundain (tu hwnt i’r awdurdodau Parthau Aer Glân gwreiddiol – Leeds, Derby, Nottingham, Birmingham a Southampton) gyflwyno drafft o’u cynlluniau gweithredu lleol i’r llywodraeth erbyn Mawrth 2018, a’r cynlluniau terfynol erbyn diwedd 2018.”
Mae £255 miliwn ar gael i gynorthwyo’r awdurdodau i baratoi eu cynlluniau, ac i gymryd camau penodol i wella ansawdd aer lleol. Mae £40 miliwn o’r cyfanswm ar gael ar unwaith i gynnal astudiaethau dichonoldeb, ac i ddatblygu a chwblhau cynlluniau lleol.
Bydd y llywodraeth yn asesu’r cynlluniau draft i sicrhau eu bod yn effeithiol, yn deg, yn cydymffurfio gyda’r gofynion i wella ansawdd aer ac yn werth yr arian.
Mae disgwyl i’r awdurdodau lleol ystyried mesuriadau eang. Mae hyn yn cynnwys newidiadau i gynlluniau ffyrdd, defnyddio technoleg a thanwydd newydd ac ôl-ffitio cerbydau. Yn ychwanegol, dylid annog sectorau cyhoeddus a phreifat i ddefnyddio cerbydau allyriadau isel a chludiant cyhoeddus. Os nad yw’r mesurau yma yn ddigon, gellir ystyried cyfyngu mynediad i rai ardaloedd, parthau talu a chosbau. Mae DEFRA yn cynghori mai mesuriadau tymor byr yw’r rhain i sicrhau bod yr awdurdodau yn cyrraedd targedau lleihau llygredd o fewn yr amser penodol. Bydd ymgynghoriad ynglŷn â manylion Fframwaith Parthau Aer Glân yng Nghymru oddi fewn y 12 mis nesaf.
Os yw awdurdodau yn penderfynu defnyddio parthau talu, bydd y Tribiwnlys Cosbau Traffig yn darparu dyfarniadau annibynnol. Bydd PATROL yn cefnogi cynlluniau o’r math yma drwy gyfnewid syniadau, profiadau a rhoi cyngor ynglŷn â dulliau gwaith effeithiol.